Wisgi yn arddull safonol gwreiddiol Penderyn yw hwn, wedi’i aeddfedu mewn hen gasgenni bourbon a’i orffen mewn hen gasgenni gwin Madeira i ddatblygu ei gymeriad aur llawn. Caiff ei botelu ar gryfder o 46% abv.
NODIADAU BLASU
Arogl: Ffresni clasurol gydag arogleuon taffi hufen, ffrwythau a rhesins cyfoethog.
Blas: Ffres a llawnder cywrain, gyda’r melyster i gydbwyso sychder blasus.
Gorffeniad: Awgrym o ffrwythau trofannol, rhesins a fanila’n parhau.
Balance: Oaky vanilla tones/dry sweetness.
2019 Ultimate Spirits Challenge – Very Good 88/100
2018 Spirits Selection by Concours Mondial – Grand Gold
2018 World Whisky Masters Europe Premium – Gold
2017 World Whisky Masters Europe Premium – Gold
Mae gan y wisgi hwn ysbryd cain gyda blas mawn canolig a lliw euraid golau. Caiff ei botelu ar gryfder o 46% abv.
NODIADAU BLASU
Arogl: Yr hyn gawn ni gyntaf yw’r mwg melys aromatig. Yna, mae yna awgrym o fanila, afal gwyrdd a sitrws ffres.
Blas: Mae amrywiaeth o flasau ysgafn yn temtio’r chwaeth fwyaf soffistigedig hyd yn oed.
Gorffeniad: Mae blas mwg a fanila’n parhau ar y gorffeniad canolig dymunol.
Balance: Light smoke/citrus fruitiness
2020 San Fransisco World Spirits Competition – Double Gold
2018 IWSC Worldwide – Gold (Outstanding 93/100)
2018 Asian Masters – Gold
Mae’r wisgi gorffeniad Portwood yn ffefryn pendant ymhlith ein cwsmeriaid yn Ffrainc ac mae’n hoelio’r sylw heb os. Caiff ei botelu ar gryfder o 46% abv.
NODIADAU BLASU
Arogl: Aroglau ffrwythau sych cyfoethog gyda siocled tywyll a llugaeron; awgrym o flas derw gyda sychder cnau wedi’u pobi.
Blas: Fel hufen cyfoethog gyda thipyn o fêl ac awgrym graddol o sbeisys.
Gorffeniad: Llyfn gyda melyster mêl a derw meddal yn oedi’n ysgafn ar y tafod.
Balance: Rich wood/chocolate & dry fruits
2020 San Fransisco World Spirits Competition – Gold
2019 IWSC World Wide Whisky – Gold
2019 World Whisky Awards – Barrel Finish NAS – Gold (Best in class)
2016 World Whisky Masters Europe Premium – Gold
Mae’r Sherrywood Penderyn yn y botel hon wedi’i aeddfedu mewn hen gasgenni bourbon a hen gasgenni sieri Oloroso i ddatblygu ei flas ffrwythus cyfoethog.
NODIADAU BLASU
Arogl: arogl ffrwythau tywyll a thaffi cyfoethog gydag afalau gwyrdd a chnau cyll i greu dirgelwch dyfnach.
Blas: mae melyster cyfoethog yn troi’n sychder adfywiol.
Gorffeniad: mae tinc melys o daffi a syltanas yn ymestyn yn hir.
Cydbwysedd: sieri a sbeisys gaeaf/derw.
2019 San Francisco World Spirits Competition – Gold
2019 Ultimate Spirits Challenge – Very Good – 85/100
2018 World Whisky Masters Worldwide Premium – Gold
2017 World Whisky Masters Europe Premium – Gold
2017 ISW International Spirits Awards – Gold
Dyma’r ychwanegiad diweddaraf at ein Casgliad Aur. Mae ein cynnyrch cyfyngedig o Gasgenni Sengl Derw Cyfoethog a photeliadau 50% wedi ennill gwobrau rhyngwladol mawr, ac felly rydym wrth ein bodd o roi cartref parhaol i Dderw Cyfoethog yn ein casgliad. Mae’n cael ei aeddfedu mewn casgenni bourbon a’i orffen mewn detholiad o rai o hen gasgenni gwin gorau Ewrop wedi’u hadfer.
NODIADAU BLASU
Arogl: Cyffug siocled tywyll gyda sbeisys sinamon a phupur, ac yna ffrwythau ir – afalau gwyrdd, mango, banana a gwafas.
Blas: Cyfoethog a chymhleth. Gwead hufennog gydag arlliw o fanila, derw a sinamon, a lledawgrym o daffi cnau.
Gorffeniad: Blas hufennog-fanila sy’n parhau am gryn amser.
2020 San Fransisco World Spirits Competition – Gold
2019 IWSC – World Whisky – Gold 95/100
2019 – Spirits Business Design & Packaging Awards – Master