‘Poteli arbennig, pob un yn dathlu unigolyn, carreg filltir neu ddigwyddiad yn hanes Cymru sydd ag arwyddocâd rhyngwladol.’
Bwriad y ddistyllfa yw rhyddhau cyfanswm o 50 wisgi brag sengl o’r fath, pob un yn gyfyngedig o ran nifer ac yn cynnwys gwirod Cymreig arobryn Penderyn.
A brand new Sherrywood Grand Cru finished whisky at 46%. The 7th in our ‘Icons of Wales’ series celebrates Rhiannon, a powerful enchantress and horse goddess from the ancient Welsh folk tales, The Mabinogi, which were written in the 11th century and are some of the earliest writings in Europe. More recently Rhiannon featured in the wonderful song of the same name by Fleetwood Mac.
TASTING NOTES
Nose: Spicy sweetness with the hint of vanilla; oak tannins, red berries, blackcurrants, hazelnuts, pears, sultanas and sweet marzipan.
Taste: Smooth velvety sweetness; creamy caramel, figs, red berries, delicate frangipane, chocolate ganache and a touch of coffee.
Finish: Sweet and dry with long lingering oak tannins.
2019 – Spirits Business Design & Packaging Awards – Gold
A brand new Peated Portwood finished whisky at 43%. The 6th in our ‘Icons of Wales’ series was launched on the 1st March 2019, and commemorates the original Welsh Whisky distillery at Frongoch, near Bala, which closed over 100 years ago. Queen Victoria visited there in 1891 and on the 26th July 1895 the Welsh Whisky Co. received a warrant, and Royal Welsh Whisky was born. We have made a film commemorating the history of this whisky which can be seen here.
TASTING NOTES
Nose: A delicate smoky peat with vanilla, light red berries and salted caramel.
Taste: The earlier hints of smoke become more prevalent. Sweet smoky toffee/treacle notes, a trace of cracked black pepper, malted barley and the soft sweetness of fudge.
Finish: The smokiness slowly departs like morning mist, leaving a lingering delicate vanilla and wood spice final note.
Wisgi casgen bourbon ar gryfder o 41% abv. Lansiwyd y diweddaraf yn ein cyfres ar 29 Tachwedd 2016 ac mae’n dathlu Bryn Terfel, y canwr opera Cymreig ac, yn fwy penodol, ei hoff rôl, Falstaff. Mae’r wisgi yn orffenedig, sbeislyd a moethus ac rydym wedi cynnwys elfen theatrig yn y cynllun, gan adlewyrchu cymeriad Falstaff.
NODIADAU BLASU
Arogl: Llyfn a hufennog. Mae yna awgrym o fêl, hufen iâ fanila a mymryn o sglodion banana.
Blas: Mae’r profiad yn orffenedig ac yn gyfoethog, yn llawn ffrwythau, afalau melys, fanila a naws sy’n dwyn i gof atgofion hiraethus am ‘fanana split’.
Gorffeniad: Mae’n cynnwys mêl sy’n cael ei ddilyn gan flas atgofus arall – soda hufen – ac ymhen amser blas sbeis prennaidd sy’n parhau.
2018 Spirits Business World Whisky Masters Europe Premium – Gold
2018 Jim Murray’s Whisky Bible European Whisky (Multiple Cask) – Best in class
Wisgi â gorffeniad blas mawn ar gryfder o 41% abv. Gan mai 2015 oedd blwyddyn Cwpan Rygbi’r Byd, roeddem yn falch o lansio’r pedwerydd yn y gyfres ‘Icons of Wales’ gyda’r enw syml ‘That Try’. Mae ‘That Try’ yn dwyn i gof uchafbwynt y gêm a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 1973 ym Mharc yr Arfau, Caerdydd oedd dan ei sang, pan sgoriodd y Baa-Baas y cais a ystyrir y gorau a welwyd erioed. Mae’r swp, sy’n cynnwys darlun o Gareth Edwards a gomisiynwyd yn arbennig ar y botel ddu mewn blwch du a gwyn deniadol i gyd-fynd â chit enwog y Baa-Baas, yn Wisgi Brag Sengl Blas Mawn ar gryfder o 41% abv.
NODIADAU BLASU
Arogl: Mae arogleuon ysgafn mwg mawn, bore cynnar ar lan y môr creigiog a marmalêd cynnes ar dost oll yn cystadlu am ein sylw. Mae’n wisgi ffres a glân iawn, wedi’i ddistyllu’n wych, sy’n rhoi pleser o’r llymaid cyntaf un.
Blas: Mae’n dechrau gyda melyster mawr cyn i’r blasau myglyd, mymryn yn feddyginiaethol ymddangos.
Gorffeniad: Ychydig o chwerwder yn dilyn sy’n gadael ffresni hirhoedlog yn y geg.
Wisgi â gorffeniad pren sieri ar gryfder o 41% abv. Y trydydd yn y gyfres ‘Icons of Wales’; Brag Sengl newydd, a ryddhawyd yn 2014 i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth y llenor, y bardd a’r darlledwr Cymreig enwog, Dylan Thomas. Mae’r swp trwyddedig swyddogol hwn yn dathlu bywyd a gwaith Dylan ac yn cynnwys ffotograffau, darluniau a dyfyniadau gwreiddiol sy’n cyfleu Dylan ar ei fwyaf creadigol.
NODIADAU BLASU
Arogl: Mae’n dechrau gydag arogl bonbons siwgr, gyda chyfoeth o arogleuon taffi hufennog a fanila. Yn fuan mae afalau gwyrdd ffres Penderyn a ffrwythau aeron wedi’u berwi yn ymuno â’r blas.
Blas: Blasau sieri hufen, yn amlwg ond nid yn ormodol, yn gymysg â ffrwythau cain ag atgof o gyrens gwyn a melon melwlith.
Gorffeniad: Wisgi aperitif gyda gorffeniad canolig-hir sy’n cyrraedd penllanw gydag adflas deniadol o ffrwythau cymysg. Mae cinio’n galw!
International Wines & Spirit Competition 2014 Worldwide Whisky ‘No Age Statement’ Category – Arian
Wisgi â gorffeniad Madeira ar gryfder o 41% abv. Yr Ail ‘Icon of Wales’ yw Independence sy’n coffáu llofnodi Datganiad Annibyniaeth America ym 1776. Roedd Thomas Jefferson yn wladweinydd oedd yn dod i amlygrwydd, ac a aeth ymlaen i fod yn un o arlywyddion enwocaf America, yn un o bum deg chwech o ddynion a fabwysiadodd y Datganiad Annibyniaeth. Mae Cymru’n wlad fach ond er hynny roedd gan Jefferson a phymtheg o’i gyd-lofnodwyr wreiddiau Cymreig.
NODIADAU BLASU
Arogl: Arogleuon afalau ffres a ffrwythau sitrws gyda chyffug hufennog a rhesins syltana yn y trwyn i greu wisgi cymhleth ond ffres, glân a chytbwys.
Blas: Mae’r wisgi brag sengl yn llyfn tu hwnt gyda digonedd o ffrwythau ffres a ffrwythau sych cyfoethog. Cywrain a melys gyda dim ond awgrym o chwerwder sy’n parhau i adfywio.
Gorffeniad: Mae’r wisgi’n graddol gyflwyno gorffeniad hir gan adael adflas cacen Madeira a syltanas.
Wisgi â gorffeniad Madeira ar gryfder o 41% abv. Red Flag yw’r swp cyntaf yn y gyfres ‘Icons of Wales’. Mae’n coffau’r tro cyntaf i’r faner goch gael ei chodi fel symbol o brotest gymdeithasol. Digwyddodd hyn yn ystod Gwrthryfel Merthyr ym 1831, a ddaeth i ben gyda chrogi’r glöwr Dic Penderyn, sef Richard Lewis.
TNODIADAU BLASU
Arogl: Arogleuon afalau ffres a ffrwythau sitrws gyda chyffug hufennog a rhesins syltana yn y trwyn i greu wisgi cymhleth ond ffres, glân a chytbwys.
Blas: Mae’r wisgi brag sengl yn llyfn tu hwnt gyda digonedd o ffrwythau ffres a ffrwythau sych cyfoethog. Cywrain a melys gyda dim ond awgrym o chwerwder.
Gorffeniad: Brag adfywiol, sy’n graddol gyflwyno gorffeniad hir gan adael adflas cacen Madeira a syltanas.