‘Dyma’r gwirod hufen Nadolig o ddewis yn ein cartref ni.’
Merlyn Cream Liqueur
Mae Merlyn yn greadigaeth hudolus yn cynnwys y gwirod puraf a’r hufen gorau o wlad y chwedlau.
NODIADAU BLASU
Arogl: Ansawdd cyfoethog, hufennog sy’n cynhesu gyda chyffug taffi law yn llaw â blas pefriog gwirod glân a ffres. Mae blas fanila, awgrym o fanana a ffrwythau egsotig – a phetalau rhosod hyd yn oed – oll yn llechu’n ysgafn yn y cefndir.
Blas: Yn y geg mae’r ffrwythau’n fwy dwys ac yn cymysgu gyda’r fanila.
Gorffeniad: Mae’r cyfuniad o hufen ffres a gwirod cymhleth yn creu dyfnder dirgel sy’n anodd ei ddisgrifio ond yn annog y llymaid nesaf.
2018 World Liqueur Awards – UK Cream Liqueur – Winner
2016 International Wine & Spirits Awards – Silver