EIN DISTYLLBAIR UNIGRYW
"Distyllbair heb ei debyg..."
Pair copr sengl yw ein distyllbair wisgi sy’n cynhyrchu gwirod blasus hynod o gryf a phur ac fe’i cynlluniwyd gan Dr David Faraday, un o ddisgynyddion y gwyddonydd Fictoraidd a dorrodd dir newydd, Michael Faraday. Ers 2013 mae gennym bâr o’r peiriau hyn.
Tra bo’r rhan fwyaf o ddistyllfeydd yr Alban ac Iwerddon yn defnyddio system dau neu dri distyllbair gonfensiynol, mae’r dechnoleg sydd wedi’i datblygu ym Mhenderyn yn golygu y gellir cynhyrchu gwirod hynod o ‘flasus’ a glân o un distyllbair.
Fodd bynnag, yn 2014 aethom ati i gomisiynu pâr o ddistyllbeiriau ‘llusern’ Albanaidd eu harddull, sy’n ein galluogi i arbrofi gyda mathau newydd o wisgi.
Bob bore rhoddir ein golchiad haidd brag ni ein hunain yn ein pair copr unigryw. Wrth i’r stêm gynhesu’r hylif mae’n dechrau ffrwtian ac mae’r anwedd yn codi i golofn gopr uwchben y distyllbair. Mae nifer o blatiau tyllog yn y golofn ac mae’r anwedd yn cyddwyso ar y plât cyntaf cyn dychwelyd i’r distyllbair.
Wrth i’r broses barhau, mae’r anwedd yn cyrraedd yr ail blât … ac yn y blaen, cyn anweddu a disgyn yn ôl i’r distyllbair; a phob cam yn troi’r gwirod yn llyfnach, yn feddalach ac yn fwy coeth na chynt. Maes o law mae’r gwirod yn cael ei dynnu o’r seithfed plât ar yr ail golofn a’i bibellu i mewn i’n diogell wirod wydr (gweler y llun uchod) lle y mae’n cyrraedd, yn llythrennol fesul tropyn, yn ystod y dydd.
Mae’r broses hudol nid yn unig yn trwytho’n gwirod crai gyda chryn gymhlethdod, dyfnder a chynildeb, ond mae hefyd yn cael gwared ar lawer o’r cyfansoddion cemegol annymunol – rhywbeth nad yw system ddistyllbair â phair confensiynol yn llwyddo i’w wneud. Pan fo’r gwirod yn cyrraedd y ddiogell gyda chryfder o 92% abv, sef yr uchaf yn y diwydiant, prin fod unrhyw olion o’r cyfansoddion cemegol hyn ac mae hyn yn hollbwysig yn ystod y broses o’i heneiddio mewn casgenni.
Caiff wisgi ei heneiddio mewn casgenni derw golosgedig, yn bennaf i gael gwared ar gyfansoddion cemegol annymunol gan fod y golosg a gaiff ei greu wrth i gasgenni derw gael eu llosgi neu’u golosgi cyn eu llenwi yn gweithredu fel hidlydd. Gan nad yw’r cyfansoddion cemegol hyn yn ein gwirod yn y lle cyntaf fwy na heb, rydym yn defnyddio casgenni i feithrin cymhlethdod, blas a dyfnder yn bennaf.
Caiff holl elfennau’r broses ddistyllu eu rheoli’n ofalus gan ein tîm distyllu sy’n golygu y gellir cynhyrchu gwrid o ansawdd cyson uchel. Bydd hyd yn oed mân amrywiadau hinsoddol yn achosi newidiadau cynnil yng nghymeriad y cynnyrch gorffenedig. Yn wahanol i’r rhelyw o gynhyrchwyr wisgi brag, rhoddir dyddiad ar ein holl sypiau o boteli a bydd arbenigwyr yn gallu blasu’r newidiadau lleiaf yn y blas o fis i fis.
PREN A DŴR
"Dŵr pur mwynol a’r casgenni bourbon gorau..."
Dylanwadir ar nodweddion unigol wisgi brag gan nifer o ffactorau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys math ac ansawdd yr haidd brag a ddefnyddir, ffynhonnell y dŵr a chynllun a gweithrediad y distyllbair. Fodd bynnag, mae llawer o’r blas – a’r lliw terfynol – yn dibynnu ar y math o gasgenni pren a ddefnyddir ar gyfer aeddfedu.
PREN
Mae arddull gynhenid Penderyn yn deillio o’r defnydd o ddau fath o gasgenni. Ar gyfer yr aeddfedu cychwynnol rydym yn defnyddio casgenni bourbon gorau a ddewisir â llaw ac i orffen y wisgi rydym yn ei drosglwyddo i farilau barrique Portiwgeaidd a ddefnyddiwyd cyn hynny i aeddfedu gwin Madeira cyfoethog. Mae pob casgen yn cael ei gwylio yn ofalus a’i harogli’n rheolaidd nes bod y coed wedi rhoi ei flas llawn i’r wisgi a bod hwnnw’n berffaith.
Mae’n eiliad sy’n gofyn am fanylder cain y synhwyrau dynol i benderfynu arni, ac mae’n dau ddistyllwr, Laura ac Aista, yn hynod fedrus yn y maes hwn. Rydym yn chwilio am y casgenni gorau o ddistyllfeydd gorau Tennessee a Kentucky. Mae cyfran uchel yn dechrau eu bywyd yn Buffalo Trace, a gydnabyddir yn eang fel un o’r bourbons gorau yn y byd. Rydym yn defnyddio casgenni gan Evan Williams hefyd, sydd o ansawdd tebyg. Un o orllewin Cymru oedd Evan Williams a ddechreuodd ddistyllu ym 1783, ac felly caiff ei ystyried yn un o sylfaenwyr diwydiant Bourbon America.
Mae gennym berthynas arbennig gydag un o’r gweithfeydd cowper gorau sy’n cyflenwi’r tai Madeira gorau. Mae Madeira yn win melys, cymhleth hynod o brin a gynhyrchir ar yr ynys o’r un enw’n unig. Gall gael ei heneiddio am gan mlynedd a mwy. O dipyn i beth, bydd ein gwirod yn trwytholchi’r Madeira o’r derw, gan ddatblygu ysgafnder a chymhlethdod cynyddol.
O bryd i’w gilydd byddwn yn defnyddio pren gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o wisgi Penderyn, ond mae’n wisgi blas mawn cain hyd yn oed (a gynhyrchir gan ddefnyddio casgenni blas mawn Albanaidd) yn cadw cymeriad y gwirod. Rydym yn defnyddio casgenni pren Port o Bortiwgal hefyd yn ogystal â chasgenni Sieri Oloroso sych o Sbaen i orffen ein wisgi.
DŴR
Mae Distyllfa Penderyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a daw’n dŵr o’n ffynhonnell bur ni ein hunain yn y calchfaen carbonifferaidd ymhell o dan y ddistyllfa. Dyma’r unig ddŵr a ddefnyddir yn y broses ddistyllu a blendio ac mae’n gynhwysyn hollbwysig yn ein wisgi brag. Mae’r ddistyllfa wedi’i lleoli uwchben dyfrhaen enfawr sy’n cynnwys ffurfiannau creigiau a ffurfiwyd tua 340 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Mae’r ddyfrhaen yn dal dŵr sy’n hidlo i lawr drwy’r graean gwaelodol gorchuddiol yn y calchfaen. Mae’r ffurfiant cyfan yn wely trwchus ac yn ddeunydd graenog mân i ganolig ei faint. Cafodd ei ddyddodi mewn amgylchedd morol bas yn wreiddiol.
Mae arwynebau hindreuliedig hynafol mewn rhai rhannau o’r ffurfiant, wedi’u gorchuddio â phridd cysefin tenau mewn mannau lle’r oedd y graig yn uwch na lefel y môr am amser byr cyn cael ei boddi eto.
BANNAU BRYCHEINIOG
Uwchben y ddaear, yn ystod yr Oes Iâ, roedd fflochiau iâ oedd yn gorchuddio Gogledd Ewrop wedi cyrraedd y lledred lle mae Distyllfa Penderyn, oddeutu 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wrth i’r iâ encilio yn ôl i’r Arctig, dechreuodd tirwedd heddiw ddod i’r amlwg.
Mae Penderyn o fewn ffiniau Geoparc Cenedlaethol y Fforest Fawr hefyd. Dim ond 100 o Geoparciau sydd yna ar draws y byd ac maent yn cael eu gweinyddu gan UNESCO fel ardaloedd sydd â ‘threftadaeth ddaearegol o bwys mawr.’